Tudalen Gymraeg
Pwy ydym ni
Fe'n sefydlwyd gan y llywodraeth i fod yn rheoleiddiwr ariannol y DU i reoleiddio gwasanaethau ariannol a diogelu eich hawliau. Mae hyn yn golygu ein bod yn gosod safonau y mae'n rhaid i gwmnïau gwasanaethau ariannol eu cyrraedd a chymerwn gamau gweithredu os nad ydynt yn gwneud hynny. Rydym yn rhoi gwybodaeth ac awgrymiadau i chi am eich arian hefyd. Darperir y gwasanaeth Moneymadeclear gan yr FSA mewn partneriaeth â'r Llywodraeth. Am wybodaeth fanylach amdanom ni, ewch i'n gwefan gorfforaethol.
Dim gwerthu
Gan mai ni yw'r rheoleiddiwr, nid ydym yn gwerthu unrhyw beth. Felly, mae ein holl wybodaeth yn ddiduedd. Rydym yn rhoi gwybodaeth drwy'r wefan hon, llyfrynnau a llinell gymorth Moneymadeclear. Fodd bynnag, fel y rheoleiddiwr, ni allwn ymchwilio i gwynion unigol, argymell cwmni penodol na rhoi cyngor i chi ar ba gynnyrch i'w ddewis.
Sut rydym yn eich helpu chi
Mae gan Moneymadeclear wybodaeth a chanllawiau am faterion ariannol i'ch helpu i weithio allan yr hyn sy'n iawn i chi. Rhown wybodaeth ddiduedd mewn sawl ffordd:
- mae'r wefan Moneymadeclear yn cynnwys ystod gynhwysfawr o ganllawiau cam-wrth-gam i'ch helpu gyda phenderfyniadau ariannol a gwybodaeth am ystod eang o gynhyrchion a gwasanaethau ariannol;
- mae ein tablau ar-lein yn eich helpu i gymharu cynhyrchion ariannol, er enghraifft o ran eu costau a'u hyblygrwydd;
- mae llinell gymorth Moneymadeclear yn cynnig gwybodaeth a chanllawiau cyffredinol yn Gymraeg, yn ogystal â Saesneg;
- mae ein llyfrynnau am ddim, sy'n hawdd eu deall yn cwmpasu ystod eang o bynciau, rhai cyffredinol a rhai am gynhyrchion penodol, ac mae'r canlynol ar gael yn Gymraeg:
- Cael cyngor ariannol
- Cardiau credyd
- Cyfrifon banc sylfaenol
- Eich cyfrif banc
- Gwneud cwyn
- Yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol
Gallwch eu harchebu ar-lein gan ddefnyddio ein ffurflen archebu cyhoeddiadau ar-lein.
Cysylltu â ni
Gall ein llinell gymorth Moneymadeclear ateb ymholiadau cyffredinol am gynhyrchion a gwasanaethau ariannol. Gall roi gwybodaeth ac awgrymiadau i chi am eich arian hefyd er mwyn eich helpu i weithio allan beth sy'n iawn i chi. Gallwn ddweud wrthych hefyd os yw cwmni wedi'i awdurdodi a'ch cyfeirio at y man cywir os nad ydych yn gwybod â phwy y dylech gysylltu. Ni fyddwn yn ceisio gwerthu unrhyw beth i chi ac nid ydym yn argymell cynhyrchion na darparwyr penodol.
Ffoniwch ein llinell gymorth Moneymadeclear ar 0300 500 5000 (ni ddylai galwadau gostio mwy na galwadau 01 neu 02 ledled y DU, a chânt eu cynnwys mewn munudau cynhwysol ffôn symudol a llinell tir).
Gallwch gwblhau ein ffurflen gyswllt ar-lein hefyd – ond sylwch y gallwn ymdrin â'ch ymholiad yn llawer cyflymach os byddwch yn ein ffonio'n uniongyrchol neu'n nodi eich rhif ffôn yn ystod y dydd ar y ffurflen.
